Sili

Gneud be' ma'n ddeud ar y tin

Briwiau

Gah! - mae'r wythnos yma wedi bod yr un mwyaf anffodus i mi fod yn cofio ers tro byd. Dwi'm yn meddwl fod diwrnod wedi pasio ers i Aled adael dydd Mawrth lle nad ydwi wedi anafu fy hun mewn rhyw ffordd neu'i gilydd a minnau bellach yn ymdebygu i fwrdd chess efo dim ond ambell sgwaryn o groen gwyn i'w weld ar ol.

Nos Fawrth, dyma dathlu penblwydd Mathew mewn par o fwtsias cowbois a sannau tyllog. Y cam gwag cyntaf ar fy rhan i oedd yfed fy hyn yn wirion bost fel nad oeddwn yn medru teimlo'r boen. Camgymeriad anferth arall oedd gadael i mi gael fy llusgo i Liquid i orffen y noson i ddownsio a chwifio breichia a ballu efo Dafydd Nant gan ychwanegu i'r bwystfilod blisteraidd. Talu bora dydd Mercher a wnes i wrth gwrs wrth i mi geisio hercian fy ffordd i ddarlithoedd 10 o'r gloch bora efo andros o gur pen a mola i fel chwyrligwgan. Diwrnod cerdded i mewn i handlan drws y parlwr fuodd hi am weddill y dydd Mercher gan greu twll go swmpus yn fy siwmper wlannog a briwiau bach piws hyd fy ngwasg.

Mae pethau'n gwaethygu bobl.

Nos Iau dyma Delyth yn penderfynu mynd i wels y gig Oxjam yng Nghlwb Ifor efo'i annwyl Cai a llond ysgrepan o arian. Gig dda, os nad chydig yn rhy ddistaw, a gig y Derwyddon yn Callaghans i ddilyn perfformiad Kentucky AFC. Wedi cyrraedd Callaghans, roedd y Derwyddon wedi bod a dyma penderynu'n o sydyn fod y band olaf yn gachu rwtsh felly off a Dei Nantes a mi i Bounce am chydig i weld pwy oedd ogwmpas (Rhaid ychwanegu ar y pwynt yma fy mod erbyn hyn yn "ddau gadach i'r gwynt" ac na fyswn i wedi mynychu y fath le taswn i'n medru rhesymu'n well). Cael fy ngadael yno'n unig fuodd fy hanes, cyn i mi ddisgyn ar fy nhintws ddwy waith o flaen pawb wrth geisio chwilio am wyneb cyfarwydd. Owff, ma'r briwiau ar bochau fy nhin a mhenglin yn rhei cas.

Dydd Sadwrn ddaeth pinacl poen yr wythnos. A minnau wedi bod yn son fod f'ystafell wely yn edrych reit llwm, dyma mynd ati i glirio a rhoi posteri a lluniau canfas hyd y waliau. Wedyn, gan fod y stand allweddellau "two-tier" newydd wedi cyrraedd (wedi gorfod aros pythefnos i'w gael gan fod yr un anghywir wedi dod y tro cyntaf), gesi cryn dipyn o hwyl yn gosod y Yamaha digidol a'r organ Roland VK-7 oddi tan y lle tan yn y wal a weirio pob dim at ei gilydd. Rwan, o gofio fod y ddau bwystfil yma'n drymach o beth wmbrath na'r allweddell cyffredin ac fod hi'n joban i ddyn go gyhyrog i'w cario yn gyfforddus, dychmygwch y boen wrth i'r ddau ddisgyn ar ben ei gilydd yn sgwar ar fy nhroed dde. Drwy rhyw wyrth dieflig, dyma'r twll sy'n dal dant y stand yn agor allan gan beri i hwnnw ddod yn rhydd a'r holl beth ddymchwel yn fflat i'r llawr. Pasio allan fuodd fy hanes am sbel nes dod at fy hun a cropian i'r parlwr efo nhroed yn gwaedu. Bag pys rhewllyd aeth amdano a Lucy'n actio'r nyrs wrth i mi wingo ac edrych yn gyffredinol welw yn fy sedd. Ath am drip i A&E wedyn i gael X-ray a sylw gan ddoctor golygus a ffeindio nad oeddwn i wedi ei dorri, ond nad ydwi fod i gerdded arna fo am sbelan. Owff, a methu gig BOB yn Clwb Ifor a pawb o bwys o Aber wedi dod lawr ar ei gyfer. Ond o leia ma gennai esgus i fod yn ddiog rwan (a dydi'r llun ddim yn gneud unrhyw gyfiawnder a'r briwiau na'r cyt chwaith gyda llaw).

Mae'r ty wedi bod yn le peryglus i fyw ynddo yn ddiweddar hefyd. Dyma llygodan fawr ddu yn gwibio drwy'r parlwr i guddio dan y soffa tra fod ni'n gwylio ffilm nos Ferchar (nesi wario gweddill y noson yn eistedd ar bwynt uchaf y soffa). Dyma'r to yn cychwyn gwllwng neithiwr, a dwr yn rhedeg o'r golau yn y parlwr wrth i Mathew gymrud bath fyny grisia. Felly dani'n byw mewn tywyllwch nes gawni afael ar y landlord (sydd yn gneud joban reit dda o beidio ateb ei ffon na'i negeseuon hyd yn hyn...) ac yn olaf ma pawb reit siwr fod na rhywun wedi trio torri mewn neithiwr hefyd wedi i mi glywed swn y drws cefn yn cael ei daro a Mathew yn deud fod o wedi gweld rhywun ar y patio ar ben yr holl helicoptars heddlu fuodd yn cylchu uwchben y stryd hyd oria man y bora. Cysgu efo'r golau ymlaen fues i wedi hynny, darllen Oscar Wilde a gwrando ar 'Piano Concerto No.1 in F# minor' gan Rachmaninoff i gadw'n effro.

Odd y llefrith wedi suro bora ma (diwrnod yn fuan) 'fyd.

Harymff.

2 Sylawadu:

  • At 8:01 PM, dywedoddBlogger Wierdo

    :( Gobeithio geidi wthos well cariad.

    Tin dod fyny i Rhyngol? Siwwwwr fod na soffa yn ty rwla i ti, neu oleia llawr....

     
  • At 2:58 PM, dywedoddBlogger Sili

    Oho ydw tad! Fyddai yno erbyn amsar cinio dydd Sadwrn (gan obeithio na fydd y nos Wener yn un rhy hegar...) i dy weld gyda blodyn pi-pi gwely a bocs siocled hanner gwag yn anrheg :D

    Ma'r droed yn well rwan, ond ddim clais ar ol i mi gal mynnu cydymdeimlad. Pw pw llwyr!

     

Ychwanegu sylw

<< Home