Sili

Gneud be' ma'n ddeud ar y tin

Fy Mywyd Mewn Llunia

Ooooch... mai di bod yn hiiir gyfeillion! Cyfuniad o ddiffyg amser a gormodedd o waith (a diffyg mynadd a bod yn onest) sydd wedi arwain at farwolaeth dros-dro y blog. Ond gyda gobaith, mi driai ail-gydio mewn petha dros yr Haf (gan nad oes gennai ddim gwell i neud beth bynnag...).

Reit ta, lle i gychwyn? Efo chydig o hyn mwn...



A chydig mwy o hyn...


Cael ail-gydio yn hwn




















Mwy o hon





Llond bol o hwn...




Penblwydd (yn ugain - yrgh...)


A bellach dwi'n gwario hanner f'amser rhwng adra yn Llwynhudol yn gneud llunia a chwara'r ddwy delyn newydd drwy'r dydd a fflat Aled ym Mhwllheli efo fo ac Owens bob nos.

Mai'n argoeli'n Haf braf a dwinna'n edrych 'mlaen i gael ymlacio am chydig fisoedd cyn ail-gychwyn yng Nghaerdydd ar fy nhrydedd flwyddyn.


Y gobaith ydi ail-gydio yn y blog yn fuan. Cawn weld...

Twll

Esi i Aber wicend dwytha. Taswn i'n gallu gwario pob wicend (ac ychydig o ddyddiau un-bitwin) yno, mi fyddwn heb os. Mai'n rhyfedd sut allai wario dwy flynedd yn gneud llond berfa o ffrindia newydd, ond toes na'r un (wel, falle un ne ddau lwcus) yn curo r'hen griw.

Falla fod hyn i gyd wedi dod yn sgil y ffaith fod hanner ein ty ni wedi ffreuo efo'r hanner arall (wel, tri ohona ni yn erbyn y ddau arall) am resyma sydd dros fy mhen yn llwyr a sy'n ymdebygu i gweryla plant bach mewn iard ysgol. Bellach mewn anobaith llwyr, ma'n demtashwn lot rhy gryf i wario be sydd gennai'n weddill yn yr acownt banc ar drafeilio dros Gymru i weld pobl erill sydd i weld ar yr un lefel a mi. Y penwythnos yma fydd y cyntaf i mi wario yng Nghaerdydd ers cychwyn Ionawr efo'r stiwdants erill yma dwi'n siwr. Tydi'r ffaith fod y ty yma bellach wedi amlygu ei hun fel twll drewllyd a fod ni di landio'n hunain efo'r 'landlord from hell' ddim yn helpu'r achos dwi'm yn ama.

Ond dwi'n reit hapus yma cyn belled a fod na Lady Gray poeth yn fy nhebot, y delyn mewn tiwn, Aaron yn chwyrnu cysgu fyny grisia a ty Cai fyny'r lon.

Bovril

Dwi'n sal ers gwobra RAP neithiwr yn y Gogledd. Sal iawn, iawn.

Esi ar y llwyfan i dderbyn gwobr y Cowbois yn fy meddwdod. A wedyn cyfweliad teledu gan Uned 5. A wedyn gan Bandit... ahem.

Heddiw ma mysadd i'n ogleuo o Bovril ar dost. Dwnim os ydi hyn yn gysylltiedig efo anturiaethau'r penwythnos.

Ma gennai arholiad fory 'fyd.

Tydi petha ddim yn edrych yn gret.

Ar y tren

Dwi ar y tren ar hyn o bryd, wedi goddef 3 awr a 3/4 - dim ond 3/4 awr arall i fynd. Mae'r chwarter awr ddwytha wedi bod yr hiraf o mywyd a mae 'na fam ifanc newydd ddod i eistedd wrth f'ochr efo 5 o plant (ac y 'fengaf yn ymgeisydd pendant ar gyfer ADHD mi dybiaf), felly dwi'n tybio hefyd nad eith y 3/4 awr nesaf lawer cyflymach. Enw un 'di Tyler, Iesu goc.

Newydd gyrraedd Rhyl, pinacl cymdeithas Cymreig glan gloyw.

Er mor diddorol ydi llyfr cyntaf Mark Thomas, i rywun sydd llawer iawn gwell ganddi gael ei thraed wedi sadio ar lawr solat llonydd, tydi'r ffurf yma o adloniant ysgafn o bosib ddim y ffordd orau o gadw stumog gwastad. Ond os nad ydwi'n cadw'n llygaid ar y tudalennau, dwi'n mynnu syllu ar maint anferth fy nhrwyn o'r ochr yn y ffenestri tywyll. Nesi rioed sylwi tan heddiw fod y lwmp yng nghanol fy ngwep yn warantu cael yr enw 'conc' ac yn ei lawn haeddu. Damia. Dwi erbyn hyn yn reit siwr fod gennai 'receding hairline' yng nghanol y 'mwng' (diolch Cai, mae o'n gariad cofiwch), ac erbyn hyn mae'r ddynes gyferbyn yn edrych yn rhyfedd ar y stiwdant sy'n mynnu cydio yn ei ffrinj a'i 'chonc' bob yn ail. 'Sa well i mi stopio mashwr.

Hanner awr wedi pasio, go dda. Llandudno di'r stop nesaf, dim ond dwy dair stop cyn Bangor i ddod a wedyn cyri a gwely. Ma gennai sbinaitsh yng ngwaelod fy mag ond does gennai fawr o awydd bwyd Sowth ar hyn o bryd...

Tannau a Blew

Hmm. Mi fuodd yn amser hir gyfeillion. Rhy hir falla, ond dwi di bod yn eneth brysur ers y Dolig a d'ai ddim i hel streuon am yr wyl (er fod o'n hyfryd) felly bw i chi. Bwww!

Er na dim ond dwy arholiad dwi di gal yn y mis ers dod n'ol i Gaerdydd, mae o wedi cael cryn dipyn o effaith ar fy stad meddwl. Hynny a'r llygod sydd bellach yn atgynhedlu yn y waliau yma fel tasa na ddim yfory. Oni'n effro cyn iddi wawrio bora ma yn pi-pi'n hun ag yn wylo dagrau hallt gan fod na lygoden fawr ddu yn trio hyrddio'i hun allan o'r cwpwrdd dillad cyn rhedeg o un pen f'ystafell i'r llall non-stop yn trio codi ofn arnai. Mae o'n gwbod yn iawn na roi drap i'w ladd o, yr hen genna bach blewog. Odd rhaid ffonio Lucy fyny grisia i ddod i ista efo fi a gafal yn dynn arnai nes i mi ddisgyn i gysgu yn ei breichia. Wir yr.

Gesi'r arholiad gwaethaf erioed dydd Llun. Homeostasis. Mae'r enw'n deud y cwbwl braidd dydi? Nesi aros fyny drw nos yn sdydio a dwi'n reit siwr mod i wedi gneud smonach llwyr o'r holl beth. Ac felly ers hynna dwi di bod yn cysgu ar fy nhraed braidd efo meddylfryd sy'n ymdebygu i gwdi-hw (h.y. cysgu yn ystod y dydd ac yn effro yn ystod y nos).

Onid dyma meddylfryd unrhyw stiwdant efo unrhyw owns a hynnan barch meddwch chi? Wel ia mwn, ond nid pob stiwdant sy'n yfed te rhydd o debot porslen na gwario'i phres i gyd ar y delyn letrig hyfryta'n y byd i gyd erioed. Do, mae pob mymryn o'n arian prin wedi ei fuddsoddi yn y delyn fychain ddu 33 tant yma -


Neis de? Mae o ar ei ffordd ar awyren o Shicago as wi sbic. Gesi gynnig un Catrin Finch gan nad oedd hi'n medru defnyddio'r un oedd hi di ordro o Lyon & Healey (babi newydd a ballu), ond un arian odd o, a doni'm yn cin a bod yn onest. Ac os dwi am wario pob dima goch sydd gennai, waeth i fi gal yn union be dwisio dydi? Allai strapio fo o gwmpas f'ysgwyddau a bob dim cofiwch!

Eniwe, sa well i mi fynd. Mai'n hwyr, ma mhaned i'n oeri a ma gennai ddet efo rhyw greadur bach blewog efo dannedd main sy'n cuddio rhwng y brics yn wal fy llofft...

...rhy hwyr, ma mhaned i'n oer.

Bygyr.

Dolig Llawen!

Wel, mae Dolig rownd y gornel a minnau llawn ysbryd a llawennydd yr wyl!

Ma hyn yn rwbath reit braf o gysidro mod i dal ynghanol hangover dau ddiwrnod ffiaidd wedi noson o carnej yn y Ty Newydd eto. Llwyddo i dollti peint Aled dros gitar Aaron Elias druan (wedyn sylwi fod o'n sbio a felly gwario chydig funudau yn ei lanhau efo cadach gwlyb a gwen nerfus), yfed lot gormod o jin dan yr argraff na fyddwn i'n dioddef yn y bora (ffwl...) a disgyn i gysgu yng nghwpwrdd dillad Aled dan yr argraff mod i mewn goleudy. Peidiwch a gofyn, wir i chi...

Ac ylwch pwy ddoth yr holl ffordd i Sarn i'n gweld -

Ia! Dafydd Nant o bawb...

Gan anwybyddu'r holl waith sdydio sydd gennai i neud ar y funud, mae'r gwyliau wedi bod yn reit dda i mi hyd yn hyn. Esi a'r cariad annwyl am bryd o fwyd tair cwrs i Portmeirion cyn gwario gweddill y diwrnod yn cerdded o amglych y pentref yn rhynnu'n hapus a dwi di bod yn ymweld a'r teulu i ddanfon presantau a cardiau a ballu. Mi gesi noson braf heno wrth i Cai alw draw am banad (ne ddwy) cyn i Aled alw draw i ddeud Dolig Llawen sydyn.

Yr unig beth sydd yn llwyddo i gorddi ydi'r diffyg mawr o ffilmiau Nadoligaidd ar y teledu rwan hyn. Dio'm yn teimlo'n iawn rwsut mod i'n gwylio 'Van Helsing' ar adeg sydd i fod yn rwbath teuleuol a chrefyddol. Er, dwi yn tipyn o ffan o ambell i werewolf neu fampir nawr ac yn y man...

Ac felly mae angen dymuno Nadolig Llawen i chi gyd, a blwyddyn newydd dda tasai'n dod i hynny! Gobeithio y cewch wythnos o ymborthi, diota a downsio yn ffit i'r brenin!

Morthwl

Ma amser y Nadolig wastad yn cynnau rhyw deimlad chwerw ynnai bob blwyddyn. Nid y diwrnod ei hyn cofiwch, dwi wrth fy modd efo hwnnw, ond yr wythnosau blaenorol o baratoi a gweld y ddinas yn prysuro. Dwi'n casau y busnas o weld trimings Dolig hyd y lle ym mis Medi, dwi'n casau y syniad o brynu cardiau neu bapur lapio neu unrhyw beth wir efo'r geiriau "Merry Christmas" (neu hyd yn oed waeth, "Merry Xmas") mewn llythrennau coch glityr. Felly dwi'n gneud rheol bob Dolig na fyddai'n prynu'r petha yma, ddim ond ambell botel o 'mulled wine' bob hyn a hyn.

Ond ddoe, rhaid cyfaddef y bu i mi deimlo'n hynnod Nadoligaidd, a gwario'r bora yn siopa am bresanta i'r chwaer, y cyd-lletewr a'r cariad. Mi brynis botel o mulled wine, a'i yfed yn y lownj efo pins mei ac oren efo gwen anferth hyd fy ngwynab. Erbyn hyn, dwi'n edrych ymlaen i fynd adref er mwyn cael ista o flaen tan agored wedi closio at y cariad efo botel o Baileys a cheiniogau siocled.

Do, mi ges ddiwrnod ysblennydd nes gneud rwbath gwirion a ceisio tiwnio fy ffidl efo morthwl.

Nath y syniad ddim gweithio. Ddim o gwbwl.

Go drap.

Bochau cochion

Esi am fy nhrydedd diwrnod o waith yn ward plant Ysbyty Psychiatric Whitchurch heddiw.

Mi falodd zippar fy llodra gwaith gan beri iddyn nhw ddisgyn am fy mhengliniau a dyma fflasho par o nicers pinc ffansi a top fy nghoesa i grwp o enethod bach anorexic, sgitsophrenig a bi-polar.

Owff y cywilydd a'r bochau cochion...

...nid yn unig yn y rhanbarth wynebol mi dybiaf!

Glafoeri

Mae o wedi cyrraedd.

Yn gorffwys ar fy nglin yn syllu'n fyd arnai a minnau bron a glychu'n hun o'r holl gynnwrf a disgwyl.




Albym hir-ddisgwyliedig newydd Tom Waits. Tri cryno ddisg o berffeithrwydd cerddorol gan yr unig ddyn sy'n medru fy ngostwng i ddagrau efo dim ond swn ei lais.

Ydio'n beth naturiol i eneth mor ifanc addoli rhywbeth mor hyll 'dwch?

Dyma adolygiad o'r 'box set' gan ANTI -

"Orphans: Brawlers, Bawlers and Bastards is a spectacular musical journey, which visits most every genre of American song tradition.

The diverse 56-song, 3-disc collection captures the full scope of Tom Waits’ shamanic powers as a vocalist, literary lyricist, romantic melodist, innovative arranger and pioneer of sonic worlds.

This deluxe limited edition release, written and produced by Waits and his longtime collaborator and wife, Kathleen Brennan contains 30 new and never before heard recordings, plus rare songs taken from collaborations with artists in film, literature and music—complete with a 94-page handmade booklet of lyrics and rare photos. The set, which took over three years to compile and record, is grouped by genre with songs guaranteed to move and shake the heart, the body, the mind and most unquestionably the soul.

Each of the CD’s are separately arranged and sub-titled – “Brawlers,” “Bawlers” and “Bastards” to encapsulate the full range of Waits’ nomadic scope of musical styles.

Brawlers is packed with full throated juke joint stomp, boogies and riotous blues. It’s roadhouse Waits,..He chugs, whistles and screams. It’s primal steaming surreal blues. He channels the Stones, Beefheart, Muddy Waters and T-Rex. One new one, “Low Down” is raw garage rock with Waits’ 20 year old son, Casey on drums and San Francisco’s white trash blues icon, Ron Hacker, on guitar.

Bawlers – Lonesome ballads about the sadness at the end of the road are framed by tender songs of innocence and green hope. The plaintive hill country laments of, “Tell It To Me” and the cautionary tale, “Fannin Street” blend poignantly with saloon songs of betrayal and despair (“The World Keeps Turning”) Celtic waltzes and bitter cabaret torch songs like, “It’s Over” and “Little Drop Of Poison”, all of which explore what the heart gives and what it takes away.

Bastards – explores the strange and unusual side of Waits, who is peculiar by nature. Contained here is experimental music and scary tales. There are uncategorizable diversions into this dark side. It tunnels beneath the city with spiels, rants, mouth rhythms, including a poignant reminiscence of car ownership, a Ramones cover and a version of Daniel Johnston’s, “King Kong,” a disturbing bedtime story,(not for children faint of heart),and a poem by Charles Bukowski. It has insects, murder, drowning and insanity. Or as ma says, the full dinner menu."

A dyma syniadau y dyn ei hun am yr hyfrytbeth sydd bellach yn atodiad parhaol i'r chwarewr CD acw -

"When I was small I always thought that songwriters sat alone at upright pianos in cramped smoky little rooms with a bottle and an ashtray and everything came in the window blew through them and came out of the piano as a song…and in a weird way that is exactly what happens.

What’s Orphans? I don’t know. Orphans is a dead end kid driving a coffin with big tires across the Ohio River wearing welding goggles and a wife beater with a lit firecracker in his ear.

At the center of this record is my voice. I try my best to chug, stomp, weep, whisper, moan, wheeze, scat, blurt, rage, whine, and seduce. With my voice, I can sound like a girl, the boogieman, a Theremin, a cherry bomb, a clown, a doctor, a murderer…I can be tribal. Ironic. Or disturbed. My voice is really my instrument.

Kathleen and I wanted the record to be like emptying our pockets on the table after an evening of gambling, burglary, and cow tipping. We enjoy strange couplings, that’s how we got together. We wanted Orphans to be like a shortwave radio show where the past is sequenced with the future, consisting of things you find on the ground, in this world and no world, or maybe the next world. Whatever you imagine that to be.

If a record really works at all, it should be made like a homemade doll with tinsel for hair and seashells for ears stuffed with candy and money. Or like a good woman’s purse with a Swiss army knife and a snake bite kit.

Orphans contains songs for all occasions. Some of the songs were written in turmoil and recorded at night in a moving car, others were written in hotel rooms and recorded in Hollywood during big conflamas. That’s when conflict weds drama. At any rate these are the ones that survived the flood and were rescued from the branches of trees after the water’s retreat.

Gathering all this material together was like rounding up chickens at the beach. It’s not like you go into vault and check out what you need. Most of it was lost or buried under the house. Some of the tapes I had to pay ransom for to a plumber in Russia. You fall into the vat. We started to write just to climb out of the vat. Then you start listening and sorting and start writing in response to what you hear. And more recording. And then you get bit by a spider, go down the gopher hole, and make a whole different record. That was the process pretty much the last three years.

Then we met Karl Derfler, a wizard engineer who works at Bay Side Studios in Richmond, CA, in the science fiction part of town. A battlefield medic, he did a Lazarus on a number of the songs and recorded all the new material.

On Orphans there is a mambo about a convict who breaks out of jail with a fishbone, a gospel train song about Charlie Whitman and John Wilkes Boothe, a delta blues about a disturbing neighbor, a spoken word piece about a woman who was struck by lightening, an 18th century Scottish madrigal about murderous sibling rivalry, an American backwoods a cappella about a hanging. Even a song by Jack Kerouac and a spiritual with my own personal petition to the Lord with prayer…There’s even a show tune about an old altar boy and a rockabilly song about a young man who’s begging to be lied to.

I think you will find more singing and dancing here than usual. But I hope fans of more growling, more warbling, more barking, more screeching won’t be disappointed either."

Ohoho, stopia wir ddyn. Fyddai di cynhyrfu gormod...

Coesa pinc piso

Mai'n hen bryd am flog ffresh erbyn hyn. A paned i sbarduno'r sgwennu.

Mi addawis i lunia o'n llofft unwaith y byddwn i wedi gorffan ei wneud yn gartrefol, a gan fod o'n teimlo'n "gartref" erbyn hyn, dyma chi...




Ma na dipyn o lygod acw erbyn hyn. Dyma ffeindio un bychain bach brown yn eistedd mewn pwced yn y gegin ddoe wedi piso dros ei goesa ac yn edrych i fyny'n falch ar y tri pen anferth yn syllu n'ol arno. A gan mai Delyth sydd yn mynnu defnyddio trapiau ffeind yma, Delyth gafodd y swydd o gario'r lygoden i'r fynwent yn y glaw efo twal Mr. Blobby wedi ei lapio rownd caead y bwced rhag ofn i'r lygoeden ddychryn (mi welis i nhw'n gneud hyn ar rhyw ddogfen Safari ar y sianel Discovery i atal rheino rhag dychryn). Mae'n rhaid fod ni'n cynnig llety gwerth chweil i'r creaduriaid gan fod y lygoden yma mor grwn nad oedd o'n medru cerdded cymaint ag yr oedd yn rowlio ar ei stumog i bobman. I guddio dan ddail crin oedd ei hanes i sychu'r piso oddi ar ei goesa bach pinc.

Ma na fwy i'w dal dwi'n ama. Nid hwn oedd y lygoden fawr ddu a welis i chydig yn ol yn rhedeg oddi tan y soffa i eistedd yn sgwar o flaen y sgrin teledu yn ystod y rhaglen Bandit, gan ymestyn ei chlustia bach melfedaidd i donnau perlaidd BOB ac ysgwyd ei thrwyn bach pinc ar y slyg o fwstash a gysgai dan drwyn Aled ym mherfformiad y Cowbois, nage wir. Hen beth cyfryws oedd hon, a chredydau'r diwedd yn rowlio, dymai'n nodio ei phen bach arnai mewn cytundeb mud o foddhad ar y rhaglen cyn gwibio oddi tan y soffa yn ol i'w nyth heb falio bygyr ol am fy mhresenoldeb. A cyn belled a hyn, mai wedi annwybyddu'r trap llawn siocled ar ben y ffrij. Gem aros ydi hyn, welwch chi, victory will be mine...

Mae 'Orphans' gan Tom Waits allan dydd Llun. Y bwriad ydi donio fy nhrilby a mynd i dre ben bora i'w brynu o Fopp cyn gwario dwrnod cyfan yn yfed bourbon rhad a siarad mewn llais grug wrth wrando ar y Duw wrth ei waith. Ow, mi fydd hi'n hwyl!

Briwiau

Gah! - mae'r wythnos yma wedi bod yr un mwyaf anffodus i mi fod yn cofio ers tro byd. Dwi'm yn meddwl fod diwrnod wedi pasio ers i Aled adael dydd Mawrth lle nad ydwi wedi anafu fy hun mewn rhyw ffordd neu'i gilydd a minnau bellach yn ymdebygu i fwrdd chess efo dim ond ambell sgwaryn o groen gwyn i'w weld ar ol.

Nos Fawrth, dyma dathlu penblwydd Mathew mewn par o fwtsias cowbois a sannau tyllog. Y cam gwag cyntaf ar fy rhan i oedd yfed fy hyn yn wirion bost fel nad oeddwn yn medru teimlo'r boen. Camgymeriad anferth arall oedd gadael i mi gael fy llusgo i Liquid i orffen y noson i ddownsio a chwifio breichia a ballu efo Dafydd Nant gan ychwanegu i'r bwystfilod blisteraidd. Talu bora dydd Mercher a wnes i wrth gwrs wrth i mi geisio hercian fy ffordd i ddarlithoedd 10 o'r gloch bora efo andros o gur pen a mola i fel chwyrligwgan. Diwrnod cerdded i mewn i handlan drws y parlwr fuodd hi am weddill y dydd Mercher gan greu twll go swmpus yn fy siwmper wlannog a briwiau bach piws hyd fy ngwasg.

Mae pethau'n gwaethygu bobl.

Nos Iau dyma Delyth yn penderfynu mynd i wels y gig Oxjam yng Nghlwb Ifor efo'i annwyl Cai a llond ysgrepan o arian. Gig dda, os nad chydig yn rhy ddistaw, a gig y Derwyddon yn Callaghans i ddilyn perfformiad Kentucky AFC. Wedi cyrraedd Callaghans, roedd y Derwyddon wedi bod a dyma penderynu'n o sydyn fod y band olaf yn gachu rwtsh felly off a Dei Nantes a mi i Bounce am chydig i weld pwy oedd ogwmpas (Rhaid ychwanegu ar y pwynt yma fy mod erbyn hyn yn "ddau gadach i'r gwynt" ac na fyswn i wedi mynychu y fath le taswn i'n medru rhesymu'n well). Cael fy ngadael yno'n unig fuodd fy hanes, cyn i mi ddisgyn ar fy nhintws ddwy waith o flaen pawb wrth geisio chwilio am wyneb cyfarwydd. Owff, ma'r briwiau ar bochau fy nhin a mhenglin yn rhei cas.

Dydd Sadwrn ddaeth pinacl poen yr wythnos. A minnau wedi bod yn son fod f'ystafell wely yn edrych reit llwm, dyma mynd ati i glirio a rhoi posteri a lluniau canfas hyd y waliau. Wedyn, gan fod y stand allweddellau "two-tier" newydd wedi cyrraedd (wedi gorfod aros pythefnos i'w gael gan fod yr un anghywir wedi dod y tro cyntaf), gesi cryn dipyn o hwyl yn gosod y Yamaha digidol a'r organ Roland VK-7 oddi tan y lle tan yn y wal a weirio pob dim at ei gilydd. Rwan, o gofio fod y ddau bwystfil yma'n drymach o beth wmbrath na'r allweddell cyffredin ac fod hi'n joban i ddyn go gyhyrog i'w cario yn gyfforddus, dychmygwch y boen wrth i'r ddau ddisgyn ar ben ei gilydd yn sgwar ar fy nhroed dde. Drwy rhyw wyrth dieflig, dyma'r twll sy'n dal dant y stand yn agor allan gan beri i hwnnw ddod yn rhydd a'r holl beth ddymchwel yn fflat i'r llawr. Pasio allan fuodd fy hanes am sbel nes dod at fy hun a cropian i'r parlwr efo nhroed yn gwaedu. Bag pys rhewllyd aeth amdano a Lucy'n actio'r nyrs wrth i mi wingo ac edrych yn gyffredinol welw yn fy sedd. Ath am drip i A&E wedyn i gael X-ray a sylw gan ddoctor golygus a ffeindio nad oeddwn i wedi ei dorri, ond nad ydwi fod i gerdded arna fo am sbelan. Owff, a methu gig BOB yn Clwb Ifor a pawb o bwys o Aber wedi dod lawr ar ei gyfer. Ond o leia ma gennai esgus i fod yn ddiog rwan (a dydi'r llun ddim yn gneud unrhyw gyfiawnder a'r briwiau na'r cyt chwaith gyda llaw).

Mae'r ty wedi bod yn le peryglus i fyw ynddo yn ddiweddar hefyd. Dyma llygodan fawr ddu yn gwibio drwy'r parlwr i guddio dan y soffa tra fod ni'n gwylio ffilm nos Ferchar (nesi wario gweddill y noson yn eistedd ar bwynt uchaf y soffa). Dyma'r to yn cychwyn gwllwng neithiwr, a dwr yn rhedeg o'r golau yn y parlwr wrth i Mathew gymrud bath fyny grisia. Felly dani'n byw mewn tywyllwch nes gawni afael ar y landlord (sydd yn gneud joban reit dda o beidio ateb ei ffon na'i negeseuon hyd yn hyn...) ac yn olaf ma pawb reit siwr fod na rhywun wedi trio torri mewn neithiwr hefyd wedi i mi glywed swn y drws cefn yn cael ei daro a Mathew yn deud fod o wedi gweld rhywun ar y patio ar ben yr holl helicoptars heddlu fuodd yn cylchu uwchben y stryd hyd oria man y bora. Cysgu efo'r golau ymlaen fues i wedi hynny, darllen Oscar Wilde a gwrando ar 'Piano Concerto No.1 in F# minor' gan Rachmaninoff i gadw'n effro.

Odd y llefrith wedi suro bora ma (diwrnod yn fuan) 'fyd.

Harymff.

Cwyno

Peth cas ydi byw mewn llanast. Dwnim faint dwi'n trio, tydi'n stafell wely i ddim taclusach na pythefnos n'ol pan symudais i mewn. Extension cables a bocsus cardfwrdd a llunia canfas hyd y lle fel nad oes gennai le i droi wedi mynd. Gah! Dwi'n casau y cyrtans yma, rhei melfed samon ychafi yn gorffwys ar bolyn sydd wedi plygu fel nad ydwi'n gallu agor na cau y bygars.

Peth cas ydi methu gwyneba cyfarwydd cartrefol hefyd. A peint mewn tafarn lle ma pawb yn adnabod pawb arall, ddim yr awyrgylch sterail rhywsut sy'n perthyn i dafarndai Gaerdydd. Pob tafarn yn cynnig "meal deals" a "footy on sky sports" a "becks bottle - £1.75". Ag eto dwi'n byw ymysg myfyrwyr sy'n mynnu gwisgo'i fyny fel cymeriadau cartwn neu gowbois ac yn meddwi ar dri malibu a coke a mynnu cario'u sgidia dan eu ceseiliau ar y daith n'ol adref. Ond ymysg y gybolfa fyfyriol, mai'n deimlad braf cael suddo n'ol i'r drefn o fod yn flin a chwerw at bawb yma ac yfed lady gray yn rhydd mewn tebot. Niam niam.

Peth cas ydi gorfod codi yn fuan bob bora a minnau'n gwbod yn iawn y byddai wedi diflasu'n llwyr tan 5. Ma'r darlithoedd pharmacology yn ddiddorol, ond mae'r gweddill yn rwtsh gan ddibynnu ar y darlithiwr.

A wedyn dydi Al ddim yma chwaith, sy'n beth cas go iawn. Ond dwi yn cael ei weld ar y wicends am sbel, tan wedi Tyrfa Tawe o leiaf. Mai'n ffein, jest yn rhyfadd i fynd mor hir heb weld rhywun mor agos a wedyn y ffaith fod o mor bell ar ben hynny a'r ddau ohona ni'n byw bywydau ein hunain. Ond mai'n hyfryd ei gael o yma weithia. Mi fuodd y Cowbois yn recordio yn Boomerang ar gyfer Bandit wicend dwytha. Ath hi'n dda iawn, efo fersiwn newydd o ambell gan i edrych mlaen i' weld ar y sgrin erbyn yr 2il o Dachwedd...

Dwi'n mwynhau bod n'ol yng Nghaerdydd ar y cyfan. Allai'm cwyno.

Wilde and Wonderffwl

How do you do young layhayhaydee?

Wel dwi n'ol yma yn y ddinas fawr yn fy nhy newydd ac wedi cychwyn y darlithoedd 9-5 yn barod. Ac wedi disgyn i'r un hen drefn o arwyddo'n enw i'r rhestr dissection ben bora a cherdded oddi yno'n unionsyth. Hyn i gyd efo'r bwriad o wneud y gwaith ar ben fy hun yn y cyfamser wrth gwrs (ond nai ddim).

Wedi cael wythnos go bleserus. Dadbacio, ymlacio a diota (hyn i gyd wrth deimlo'n bwysig ymysg y ffreshyrs meddygaeth bychain cin). Mai'n braf cael gneud bob dim ar fy nhelerau fy hun eto. Dwi di cael ambell brynhawn hyfryd yn eistedd yn Copa yn gwylio'r byd yn pasio wrth yfed glasiad neu ddwy o gwrw ceirios a darllen Oscar Wilde mewn cadair esmwyth. Dwi di gwirioni'n lan efo 'The Picture of Dorian Gray' ar y funud, yn enwedig y 'preface' penigamp -

"The artist is the creator of beautiful things.
To reveal art and conceal the artist is art's aim.
The critic is he who can translate into another manner or a new material his impression of beautiful things.
The highest as the lowest form of criticism is a mode of autobiography.
Those who find ugly meanings in beautiful things are corrupt without being charming. This is a fault.
Those who find beautiful meanings in beautiful things are the cultivated. For these there is hope.
They are the elect to whom beautiful things mean only beauty.
There is no such thing as a moral or an immoral book. Books are well written, or badly written. That is all.
The nineteenth century dislike of realism is the rage of Caliban seeing his own face in a glass.
The nineteenth century dislike of romanticism is the rage of Caliban not seeing his own face in a glass.
The moral life of man forms part of the subject-matter of the artist, but the morality of art consists in the perfect use of an imperfect medium.
No artist desires to prove anything. Even things that are true can be proved.
No artist has ethical sympathies. An ethical sympathy in an artist is an unpardonable mannerism of style.
No artist is ever morbid. The artist can express everything.
Thought and language are to the artist instruments of an art.
Vice and virtue are to the artist materials for an art.
From the point of view of form, the type of all the arts is the art of the musician. From the point of view of feeling, the actor's craft is the type.
All art is at once surface and symbol.
Those who go beneath the surface do so at their peril.
Those who read the symbol do so at their peril.
It is the spectator, and not life, that art really mirrors.
Diversity of opinion about a work of art shows that the work is new, complex, and vital.
When critics disagree, the artist is in accord with himself.
We can forgive a man for making a useful thing as long as he does not admire it. The only excuse for making a useless thing is that one admires it intensely.
All art is quite useless."

Mae pob darn o'i waith gennai acw yn Tewksbury St. bellach felly fydd hi'n braf cael gweithio fy ffordd drwy bob dim yn ystod y misoedd nesaf.

Ma'r busnas dadbacio ma'n ffiaidd. Dros wythnos a ma bob dim dal mewn bocsus a dros y lloria. Dwi am fynd i Ikea heno (eto) i nol rhyw fan bethau i adio twtsh o liw i'n stafell wely. Gyda gobaith mi gai amser i beintio rwbath i roi ar y waliau yn fuan, a ma Aled wedi dod a peinting Wil i mi hongian uwchben fy lle tan. Mi bostiai lunia unwaith fyddai wedi gorffen pob dim.

Gig wych gan y Cowbois, Tangwystyl a'r 'Toidz nos Iau ddwytha yn y Clwb. Nid mod i'n cofio dim wedi'r Cowbois dachi'n gweld, ond mae llunia yn dyst i mhresenoldeb bellach. Mi fydd y Cowbois yn dychwelyd yma nos Wener i recordio ar gyfer Bandit felly beryg y bydd hwyl i'w gael dros y penwythnos nesaf hefyd.

Mae'r malwod i weld yn setlo mewn 'fyd.

Tishw

Ow ma Sili'n symol. Rhyw dagu brwnt a methu anadlu a rhyw lol felly. Felly dwi'n ogleuo o hen bobl yn cnoi fferis tagu a cymud ambell i lymaid o ryw ffisig du gludiog sy'n ogleuo o licrish. Ychafi. A ma'r unig bocs o dishws yn y ty yn dosbarthu papur tywod sy'n troi'r trwyn yn goch.

Ac o ganlyniad i hyn, dwi 'di methu stoncar o gig yn Neuadd Hendre ac Al fawr ar ei fas yn jiglo ar y llwyfan i gyfeiliant y Cowbois a phawb arall yn jiglo yn y ffrynt o'u blaena. Ac ar y funud dwi wrthi'n methu stoncar o gig arall yn Port efo Cowbois, Pwsi a Radio Lux. Gah!

N'ol i Gaerdydd fory am flwyddyn arall, a'r Haf wedyn ar ei ben go iawn. Iesgeth, mae o wedi hedfan a finna wedi gneud bygyr ol o werth a bod yn onest. Nefyr maind. Fydd pump awr mewn car efo'r rhieni efo clamp o siwtces ar fy mhen, wedyn dadbacio a sortio popeth allan bownd o fod yn hwyl...

Ma Aled yn dod atai dydd Iau i chwarae yn Clwb Ifor fel rhan o gig yr Undeb Gymraeg newydd, yippety! Mi fydd na le gwag ar ol iddo adal mashwr. Ewadd, mae o'n hogyn gwerth ei halen, wchi. Ddoth o'r holl ffordd yma heddiw ynghanol setio fyny i'r gig ym Mhort dim ond i ddeud tata, ma mam di bod yn tynnu coes ers hynny.

Mwy o bacio a thagu stwff gwyrdd rwan, bw.

Wil Ffidl

Newydd brynu un o rhain -


Ffidl 'letrig dawel Sojing. Hynnod cwl mewn ffordd hynnod hyll. Dyma ffordd wych o neud gelynion yn syth bin allan o drigolion rhif 28 pan y byddai'n symud mewn ar y 24ain!

Mi fues i'n Pwllheli neithiwr yn yfed fy hun yn ddall a baglu o dafarn i dafarn. Ddim go iawn, esi weld y llanw uchel efo'n rhieni am hanner 'di deg. Trist braidd ynte? Ond y peth tristaf oedd gweld rhyw ffwl ar ei hyd yn ganol y lon wedi ei ddyrnu ynghanol criw anferth o blantos pymtheg oed yn gafael yn eu alcopops ac yn panicio fod yr heddlu ac ambiwlans wedi cyrraedd. Mai 'di mynd i'r dogs. A rhyw eneth yn gwisgo belt am ei phen-ol yn cerdded yn droednoeth ar hyd yr harbwr drwy boteli gwydr wedi eu chwalu'n deilchion a'i chariad a'i gap ar ongl 90' yn holi "lle ma dy shws di?" Ag odd dwr yr harbwr yn drewi o bysgod marw a minnda'n dioddef dal i fod o'r noson gynt yn y Ty Newydd. Owff, dwi'n snob.

Gig wych yn sarn ar y nos Sadwrn - Pwsi, Y Rei a'r Derwyddon. Pawb wedi chwarae'n hynnod lyfli ar ol llond bol o farbeciw tu allan yn yr haul. A minnau yn gwario gweddill y noson yn mwydro pen ac yfed seidar efo Aaron Elias ac yn rhedeg ar hyd Rhos Botwnnog yn chwilio am y Cowbois yn fy mwtsias. Ac yn ol fy nyddiadur, mae digon o nosweithiau o gigs yn y Gogledd i mi eu mwynhau cyn dychwelyd i'r 'Diff am flwyddyn arall o dorri cyrff a chysgu drwy ddarlithoedd.

Rhyw Malwod

Welis i rwbath reit... wel, sgym dwi'n meddwl di'r unig air, heno.

Colin a Gary, y malwod mawreddog yn trio cal rhyw drwy waliau gwydr eu tanciau am y tro cyntaf. Er fod Gary yn hyn na Colin o rhyw flwyddyn a hanner ballu, ond fod Colin tua ugain gwaith ei faint. Oh fy Nuw, welis i rioed fashiwn shenanigans gan greaduriaid mor ifanc! Odd gen y ddau rhywbeth oedd yn edrych fel esgus am bidws gwyn yn allwthio o'u gyddfau ac yn anelu'r naill at y llall (heb fawr o lwc rhaid ychwanegu).










Y ddwy falwoden frwnt, damia nhw a'u libido rhampant...

Mi dynis i Colin allan o'i danc, ac efo darn o giwcymbyr fel rhyw fath o adloniant i dynnu ei sylw, dyma gwthio ei bidws n'ol i'w ben a rhoi stop ar yr holl fudreddi. Ychapychamychins.

Amser a ddengys odd ydi hyn am fod yn berthynas tymor hir ynteu rhyw berfertrwydd dros dro.

Chwyrnu

Ma bywyd yn symud yn rhy gyflym a sefyllfaoedd yn newid efo'r tymhorau. Nid mod isio'r Haf yma cyn hired a hyn, dwi di laru arna fo. Tasa'r Hydref chydig yn hirach swni chydig yn hapusach (geith y Gaeaf aros fel mae o, dwi di ffeindio fod hi'n bwrw lot gormod ar fyr-rybudd yng Nghaerdydd bryd yma o'r flwyddyn).

Wedi bod yn eithaf prysur ar y cyfan yn teithio rhwng Kediff, stiwdio Dyl Mei, ty Anti Haf a fama a di ffeindio fod y fath shenanigans wedi sugno lot o'r egni allan ohonai. Mi waris i lot o nos Fawrth yn hollol effro yn rhannu stafell wely hefo'r annwyl Cai gan mod i'n poeni yn gefn meddwl y byddwn i'n cychwyn chwyrnu yn fy nghwsg. Wel am beth gwirion i neud.

Ddoth Mari yma heno i ista ar ein cadeiriau esmwyth lledar coch a dodi gobaith a chariad yng nghalonnau y rhai llai ffodus ohonom. Odd hi'n braf gweld r'hen go eto i gael siarad yn gall yn hytrach na'r mymblan meddwol Hafaidd sydd rhwng y ddwy ohona ni fel rheol (dim fod Mari'n gallu siarad yn iawn beth bynnag, druan bach).

Newyddion trist fod Syr Kyffin wedi marw. Beryg na fyddai'n medru fforddio dim o'i waith mewn blynyddoedd i ddod lly.

Test dreifio pen rhyw bythefnos ballu a cyfar albym newydd sionclyd y Cowbois i'w orffen siwr o fod. Wedyn cychwyn tymor arall, cyn fod y trimings Dolig ysglyfaeth yn cael eu harddangos erbyn yr Hydref. Owff...

Llongyfarchiadau



Hwre, clod a bri i f'annwyl chwaer, Luned am basio ei arholiada TGAU heddiw. A* ym mhob pwnc cofiwch chi, ewadd ond tydi hi'n eneth glyfar?




Wrth gwrs, dylanwad ei chwaer sydd wrth wraidd hyn i gyd wchi...

Harymff

Gwdei.

Mai'n hen bryd i Wil ail-afael yn ei gwaith coleg erbyn hyn. Chwe noson olynnol o shenanigans lled-feddwol blin a dim ond un o rheini wedi ei wario allan ymysg poblach Pen Llyn. Wypsidesi.

Dwi di laru. Ma pobl yn ddiflas a chymdeithas yn rhemp.

A dwinna fawr gwell.

Nodi

Mae amser yn hedfan ymaith llawer rhy gyflym i rhywun mor sinsir a mi.

Mae'r 'Steddfod wedi mynd a dod a Delyth llawer iawn rhy sobor drwy'r holl shambyls. Ma bod yn gymdeithasol a chyfeillgar tuag at bobl sydd lot fwy meddw a swnllyd na chi am bump diwrnod yn cymeryd llawer gormod o fynadd i rhywun fel fi, sydd ar y cyfan, yn gallu bod yn reit shiort. A hyn i gyd ar ol treulio'r nosweithiau yn cysgu mewn fan goch dim ond i ddeffro i gariad fytodd un bwrger yn ormod yn y gorlan noson ynghynt gan beri i'w tu fewn gwyno yn y modd mwyaf anghymdeithasol.

Heileit yr wythnos oedd, wrth gwrs, cael sgwrs efo Emyr Wyn ar y maes am gimychiaid.
"Mae fy nghariad," meddwn innau, "yn ffan mawr ohonoch, ac yn mawr obeithio cael cystadleuaeth bwyta cimychiaid efo chi yn y dyfodol agos."
"Nawr te!" ebychodd Emyr gyda sbarc yn ei lygaid. "Odi wir?"
Oho, it's in the bag mai diyr.

Mae fy mhapa annwyl bellach wedi cyrraedd plateau gymharol gymeradwyol o ran safon ei ddealltwriaeth yn y Gymraeg. Mae o bellach yn gallu dilyn 'Noddy' Cymraeg ar S4C bob bora. Er fod o dal yn mynnu deud "llustiau'' yn hytrach na "clustia". Clod a bri i'r dyn am drio, beryg na fyddwn i'n dallt gair a ddaw o ben Plisman Plod.

Peth cas ydi ceisio cuddio rhag y dyfodol dan gwilt a glasiad o jin a thonic yn gwmpeini. Peth gwaeth ydi sylwi mor fuan a'r ail lasiad fod hyn yn amhosib a cholli diddordeb yn y gem o chwara mig hunan-dosturiol.

Llongyfarchiadau i Iwan am gael pedair A yn ei lefelau AS gyda llaw. Mae'r hogyn yn un peniog, welwch chi. Nid cyrls a chlustiau'n unig a dyfai wrth ei ben.

Cranc Coryn

Ar y cyfan, dwi'n berson sy'n hoff iawn o'i bwyd. Dwi'm o reidrwydd yn byta gymaint a hynny o gig - dim ond ambell stecen waedlyd ffein ac ambell iar, sosij fan hyn a fan draw a ballu - ond ma gennai archwaeth ddynes flonegog iawn a does dim gwell na pryd bwyd mawr o safon gennai.

Meddyliwch fy ngorfoledd nos Iau ddwytha ta pan drodd y cariad fyny ar y stepan ddrws yn mynnu mynd a mi am bryd o fwyd mor i'r Beuno! Ac er nad ydwi'n hoff o fwyd mor chwaith, ma gennai dipyn o flas am granc, ac felly dyma'r ddau ohonom yn gordro pryd o granc coryn a minnau'n glafoeri wrth feddwl am granc ffresh o foroedd Llyn wedi ei gyflwyno mewn ffrodd reit debyg i hyn:-

Does dim geiriau i ddisgrifio y siom a'r dychryn a ddilynnodd felly wrth i'r plat gyrraedd efo nid 'dressed crab' arno, on rhywbeth nid yn anhebyg i hyn:-

Owff, dyma stumog Delyth yn troi yn y fan a'r lle wrth i Aled godi'i binshars a chychwyn malu ei ffordd drwy'r granc druan a methodd Delyth a hydnoed codi ei fforc yn ei braw. Ac felly y bu, efo minnau'n eistedd yno a gwedd yn wynnach na'r galchen am ddwy awr wrth wylio a chlywed fy nghariad yn gweithio'i ffrodd drwy pob coesyn ar y bwystfil o bryf cop coch o'i flaen a chael ambell gwsmer yn chwerthin tu ol i'w dwylo wrth wylio'r eneth gringoch yn gwingo yn ei sedd. Erbyn y diwedd, roedd y llawr o gwmpas ein bwrdd wedi ei orchuddio efo darnau cragen gwag a saim cranc yn wledd dros gweflau a bysedd Aled a minnau'n gorfod rhoi y granc oedd ar ol mewn ffoil idda fo gael mynd a hi adra i sglaffio fory. Oni'n reit hapus i gael throi hi am adra. Chyffyrddai yn yr un anifail mor fyth eto.

Mai'n ugain munud i bump a dwi dal yn sal wedi noson o yfad seidar hegar ddeuddydd yn ol yn Sarn. Bols. Ond dwi wedi magu blas am jelly beans ers ddoe, ac wedi byta llawer iawn gormod yn barod felly synnwn i ddim fod hynny ddim o fudd i mi chwaith.

Ma mynd i aros ar Ynys Enlli am wythnos y syniad gorau gafodd neb erioed. Ai yno i encilio am weddill f'oes unwaith y byddai wedi gneud fy ffortiwn.

Jeli coch

Dwi newydd brynu Moleskine oddi ar ebay wedi edrych ar gyfrif Flickr Mike. Llyfryn bach du ar gyfer nodi pethau fel llunia neu meddyliau neu beth bynnag sy'n cymryd ffansi y perchennog ydi hwn, sydd wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol gan enwogion fel Picasso a Chatwin i fynegi eu hunain mewn ffordd personnol a sydyn. Doedd gennai ddim syniad fod y ffasiwn "draddodiad" yn bodoli, ond rwan dwi'n meddwl y bysai'n syniad gwych cal un arnai. Mae'r llyfr sgets bach pinc sydd gennai yn rhy fawr i gadw yn fy mhoced ac mi fysai'n braf i gael rhywbeth allai ddefnyddio yn sydyn tra ar Enlli beth bynnag. I wneud llunia o ambell i dderyn neu flodyn neu sgwennu ambell i bennill mashwr. Mi wnes i rhywbeth tebyg ar gyfer fy lefel A, lle ddoth fy llyfryn sgets ogwmpas efo mi drwy'r adeg am oddeutu chwe mis. Fydd hi'n braf medru cychwyn hynny eto a chael hel atgofion yr un adeg dwi'n meddwl.

Gwyl Cricieth fory efo Aled gan fod Pala'n chwara yno'n rhywle a wedyn ymlaen i'r Ty Newydd gan fod o'n gweithio'r noson yno. Na, sgennai ddim bywyd unigol ac ydw, dwi yn dilyn fy nghariad i bobman. Ffac off.

I ddyfnderoedd Penrhyn Llyn dydd Sul am de parti efo brodyr Erw i drafod cyfyr albym newydd y Cowbois, gan mai fi sydd yn gyfrifol am y mistimanas creadigol. Cawn fechdannau samon, party rings a jeli coch, oh cawn! Wedyn wythnos i baratoi at Enlli, ymweliad i Benygroes i weld Wil, ac Aaron yn cyrraedd dydd Gwener i gampio rhywle ger Caernarfon efo'i fets felly trip i weld fo hefyd dwi'n tybio.

Mae hwyl i'w gael!

Lemon

Peth creulon ydi colli ysbrydoliaeth ac awen. Dwi di bod yn trio cychwyn peintio drwy'r dydd a'r oll dwi di fedru ei gyflawni cyn belled a hyn ydi eistedd ar fy nhin yn gwrando ar albyms blwgras gesi'n anrheg gen Iwan echddoe a swigio o botel jin a sugno lemwns. Ma gennai'r syniadau a ma gennai'r dechnoleg, ond dydi'r sbarc ddim yna rhwsut. Y math yma o ffram meddwl sy'n creu cachfa fel arfer. Portreada efo'r lygaid chwith yn uwch na'r dde math o beth, a stwff sydd byth ddigon da i fod werth ei orffen. Tasa gennai stafell gall i gadw ngwaith a mhaent a cael chydig o lonydd falla sai'n fater tra gwahanol, ond fel y mae hi rwan, mai'n shambyls. Gobeithio y gallai amsugno chydig o hyd a lledrith Enlli pan fyddai'n aros yno pen pythefnos ballu a cyflawni campwaith neu ddwy...

... ah bols idda fo.

Pan ddaw yr Haf, fe haliwn y cychod

Reity-ho mai di bod yn amser hir! Arholiada bellach drosodd, minna'n reit siwr mod i wedi methu cael y marciau hanfodol i basio o leiaf pump ohonyn nhw allan o saith. Sydd wastad yn beth da i neud wrth geisio pasio'r flwyddyn th'gwrs.


Dwi hefyd bellach yn bedair ar bymtheg (ers dydd Sul) ac wedi pwdu braidd efo'r holl syniad o heneiddio. Dim fy mod i'n or-hoff o gael fy mrandio fel llefnyn fenywaidd (be 'di teenager benywaidd yn y Gymraeg heb orfod deud "yn f'arddegau"?) ond mae ganddo fo'i fonysus. A braf oedd cael deffro ar fora fy mhenblwydd mewn tent ger ochr afon efo rhyw lwmpyn boliog yn rhochian cysgu wrth fy ochr a darganfu nad oedd jin y dwrnod cynt wedi chwara hafoc gyda mhen. Mi wnaeth am Gar Gwyllt bendigedig boeth meddwol flwyddyn yma hefyd, ond hefo'r adud bonys o fod yn berchen bwts cowbois tro 'ma (£50 ar sel yn Gaerdydd ar fy ffordd i'r steshwn - y peth gora wnes i erioed!). Yr unig hiccups oedd gorfod mynd a Math adra oherwydd salwch mawr, cario botal o wisgi yn fy mag a hwnnw'n chwalu'n deilchion hyd fy nillad, colli nghamera a chael rhyw idiot yn treial rhoi clec i Iwan am fod ei wallt yn rhy hir. Sydd yn ffein gan fod Math bellach yn ffein, fy nillad wedi eu golchi, fy nghamera wedi ei achub a minnau wedi atal y glec megis yr incredibyl Hylc, yn ol y son. Ac uchafbwynt yr wythnos?



Yr olygfa tu allan i'r Clwb Rygbi wrth i BOB chwarae.

Felly rwan ma gennai Haf cyfan o fy mlaen. Wythnosau o neud be bynnag dwisio, heb orfod poeni am r'un arholiad na gwaith cwrs na darlith am naw. Ag eto, dwi wedi medru osgoi gorfod cael joban gonfensiynol drwy sicrhau digon o waith peintio i gadw fi fynd am sbel. Sy'n golygu fod gennai ddigon o amser i neud y petha dwi di bod isio gyflawni ar yr un pryd. Sef, cyn belled a hyn -

  • Gorffen y banner Cowbois sydd wedi ei gychwyn ers Dolig mashwr. Wyps.
  • Cyfyr albym cyntaf Cowbois, hefo syniad bras eisioes wedi ei gychwyn.
  • Dysgu y bedwaredd Moments Musicaux gan Rachmaninov wedi gorffen dysu Hungarian Dance No.1 Brahms. Fydd genai ddim dwylo ar ol.
  • Gneud o leiaf pump peinting o'r mor ar gyfer galeri newydd Owens heb golli amynedd hanner ffordd drwy eu peintio.
  • Treial gorffen y llunia ar gyfer ffilm newydd Hefin (eto heb golli amynedd).
  • Mynd i Enlli am wythnos efo Aled heb dechnoleg fodern i wneud yr amser yn haws.

Ac wedyn wrth gwrs mae'r Steddfod a'r holl wyliau eraill sydd yn dod efo'r Haf. Fe gawn hwyl flwyddyn yma, oho, fe gawn!

Tipyn o Gymeriad

Wedi cael fy nhagio gan Wierdo (dwnim sut i greu linc chos dwi'm yn ffan mor fawr a hynny o dechnoleg fel ag y mae hi ac felly rioed wedi cael yr awydd dysgu sut) i greu cymeriad South Park. Wypdi-dw meddai Delyth. Fyswn i ddim ond yn gneud hynny tasa mywyd i'n hollol ddiflas a tasa gennai ddim gant a mil o betha gwell i'w gneud. Felly yn hytrach na jest gneud un ohona i, mi wnes un o Aled hefyd.



Dwi ddim am dagio neb i neud un. Allai'm lincio nhw nallaf.

Rois i fath i'r malwod, Colin a Gary, heddiw. A llosgi ar ben y to yn torheu... ahem, sdydio.

Fini.

Ffoadur Meningitiaidd

Nagoes, sgennai ddim byd gwefreiddiol na 'thought-provoking' i ddeud. Ond mi ydwi wedi diflasu, ac mae blogia yn cael eu sgwennu yn achlysurol oddi tan dylanwad diflastod. A gan fod y blog yma wedi bod yn hir yn dod, anaml iawn dwi wedi fy niflasu yn yr wythnosau dwytha.

Dwi wedi bod adra, wedi mynd yn ol i Gaerdydd ac wedi dychwelyd yn ol i Llwynhudol unwaith eto yn yr amser sydd wedi pasio. Tra bod adra, gesi ambell noson fel hyn:

Ambell noson arall fel hyn:

Ambell i un fel hyn:

Ac Aled yn cael ambell un fel hyn:

Hihi!

Gesi wisgo ffrog ar gyfer y 'Medic's Ball' yn y Coal Exchange, cyfle i wancars mwyaf y brifysgol wisgo'i fyny a gwario oria yn prinio, dim ond i feddwi'n dwll a cholli gwin coch hyd grysau gwynion a ffrogiau sidan. Bols llwyr oedd y noson, efo minnau yn troi fyny efo uffar o bigiad pryf copyn ar fy moch a hwnnw di chwyddo i ddwywaith y maint, a Mathew yn penderfynnu mynd yn gocls a chael ffrae efo'i cyn gariad a rhwsut neu'i gilydd yn llusgo fi mewn i ganol y ddadl. Gah! Noson wych oni bai am hynny th'gwrs!

Mae'n beryg mai'r digwyddiad mwyaf trawiadol oedd Lucy yn dal Meningitis dydd Sadwrn. Wyps. Mi gwynnodd drwy dydd Gwener fod hi'n teimlo chydig yn anwydog ond dyma rhoi hynna lawr i'r ffaith fod hi wedi meddwi'n dwll nos Iau. Esi am drip i'r llyfrgell i chwilio amdani dydd Sadwrn gan nad oedd neb wedi ei gweld drwy'r dydd, a gan mod i'n berson paranoid, dyma siarsio Courtenay o'r fflat lawr grisia i ffonio security i agor ei drws i wneud yn siwr nad oedd hi yno'n cuddio. Lwcus i mi neud hynny gan mai o fewn rhyw ddeg munud o hynny dyma fi ar fy ffordd i A&E dim ond i'w ffeindio o fewn oriau o farwolaeth. Ers hynny dwi di bod ar dabledi antibiotics am ddeuddydd sy'n troi chwys a pi-pi'n rhyw liw coch rhag ofn mod i wedi pigo'r bacteria fyny ganddi. Sydd yn hwyl, th'gwrs. Ac ma hi'n gwella'n slo bach ar ol bod yn ITU am dridia ar 'ventilator' a dripiau hylif ac antibiotics, druan bach.

Esi weld Dr. John nos Lun yn y Coal Exchange. Odd o'n wyyyych! Dyma chwarae set oedd yn gyfuniad enfawr o 'Dis Dat or D'uda', 'Gumbo', 'Gris Gris' a 'Sipiana Hericane', odd hydnoed yn well. Ond rwan ma gennai nerf sciatic wedi'i ddal yn fy nghoes o ganlyniad i ormod o 'foot-tapping' drwy'r nos damia.

Dwi adra erbyn hyn i sdydio am wythnos cyn yr arholiada. Swni di lecio gneud chydig mwy, ond dyma wastio wicend cyfan yn yr hospitol ac yn bod yn paranoid. Ond dyna fo, o leiaf fod gennai esgus y tro yma dros y diffyg ymdrech!

Am y tro, twdylw!

Blodau Menyn

Ddoe mi brynis bar o drowsus dynion denim. Heddiw mi ffeindiais i grys mawreddog glas mam o'r saithdegau cynnar. Gydag unrhyw lwc a theclyn cyrlio gwallt mi fyddai'n edrych fel Robert Plant erbyn diwedd y dydd.

Dwi heb neud digon o waith a dwi heb sdydio fawr. Ond ma gennai ffydd y byddai'n ista tu ol rhywun cydwybodol a gweithgar yn yr arholiad. Lawer gwell gennai redeg yn rhydd drwy gaeau blodau menyn.

Nar, Mattoidz a Radio Flyers yn y Ty Newydd heno a ma'r ci newydd biso ar lawr. Bols.

Breuddwydion Coll

Dwi mewn picl. Ma gennai dri traethawd i'w wneud, gwerth tri chwarter blwyddyn o project assignments anatomy ac arholiad i astudio ata fo. A dwi, mewn true Delyth fashion, wedi penderfynnu peidio gneud dim ohono. Dwi'n gwbod y dylwn i, ond eto ma gennai waith celf i'w fwynhau, a botal Southern Comfort sbeshal yn y Ty Newydd, a diwrnoda efo Aled (yn y Ty Newydd), a chwara piano, a gneud bygyr ol. A ma well gennai neud y petha yna na traethoda a sdydio at betha sgennai ddim diddordeb ynddyn nhw.

Wir, sgennai ddim diddordeb o gwbwl yn y gwaith yma, sy'n wirion braidd o gofio mai fi ddewisiodd y cwrs yma. Ond dwisio gneud llunia damia. Dwisio canfas, a paent, a set newydd o frwshus meddal sgleiniog, potyn o ddwr ac easel. A chydig o oria rhydd i mi fy hun mewn lle tawel, gola efo Tom Waits yn chwara'n ysgafn yn y cefndir. Mmm...

Stiwdio sa'n braf. Rhyw fwthyn bach carreg efo dim ond un stafell fawr a digon o ffenestri ar ochr mynydd yn rwla, efo'r mor yn ddigon agos i'w beintio ar ddiwrnod stormus. Heb na lonydd prysur na dim yn arwain idda fo, a mond cwmpeini y defaid a'r gwynt. Sa gennai fainc yno i wneud fy ngherflunia copor a haearn, a popty i mi gal cyfle i drio gneud chydig o grochenwaith. Sa gennai frwshus paent hyd y lloria, darnau papur wedi'u llenwi efo sgribls a syniada coll a tiwbiau acrylics ymhobman. Canfysus gwyn hyd bob wal, yn barod i beintio, a papura mawr trwchus i mi gal gneud fy ngwaith comishiwn. Ac wrth gwrs sa raid i mi gartio'r hen biano honky-tonk o adra i'w roi mewn cornel, a hwnnw wedi lenwi efo paent a dwr budr di tollti, a photel o gin yn gorffwys ar ei geuad. Ac yna jest treulio fy niwrnodau yno yn peintio ac yn cerflunio heb orfod poeni am orffen yr un traethawd. Sai'n braf.

Ond ellith neb wneud bywoliaeth ar y fath freuddwyd, damia. Trueni fod arian a meddiannau materol yn golygu cymaint heddiw na ellid wir gneud hebddynt, ne swni yno fel fflach yn chwilio am y bwthyn mwyaf anial y medrwn i ffeindio yng nghefn gwlad Pen Llyn!

BB King

Newydd fod yn darllen blog Ramirez, a ma'i frwdfrydedd i gadw blogiau cyson gwerthfawr wedi fy sbyrio i sgwennu un fy hun... Wele, wythnos o ddownsio, pacio, trafeilio a blws.

Mi gychwynai o'r dydd Sadwrn dwytha. Conyndrym braidd gan fod hi'n benblwydd 19eg Tina a 23ain Cai ar yr un diwrnod, a minna wedi gaddo i'r ddau y byddwn i'n troi fyny rhyw ben. Ddim yn broblem fawr, gan fod Tina'n cael pryd bwyd yn y Spice Quarter yn gynnar a minnau wedyn wedi gallu mynd i gyfarfod Cai hwyrach ymlaen. Y broblem oedd fod Juice a Quinn wedi penderfynnu mynd i China China am fwyd, a minna ffansi mawr mynd hefyd. Felly, dyma guddiad rhag Badger yn fflat Aaron am awr tra fod hi'n gneud ei hun yn barod i fynd i gyfarfod Tina cyn ail-ymddangos wedi iddi adael. Oho, a dyma byta nes oni'n sal yn China China! Cyfarfod Cai a'i griw yn y City Arms wedyn cyn mynd i Copa a Metros.

Dwi'm yn cofio'r wythnos wedyn, arholiad dydd Llun, a ma raid mod iw edi dathlu rhywben. Esi ty Cai nos Fercher beth bynnag, gwylio chydig o ti-fi a glychu'n llodra a nhraed unwaith eto mewn pwll cuddiedig dieflig. Pacio bora dydd Iau, ac off a mi wedyn i gyfeiriad Pen Llyn. Wedi cyrraedd Rheadr, dyma stopio mewn garej i nol petrol cyn darganfu aelod o deulu ochr mam nad oni'n gwbod oedd yn bodoli yn talu am dorth o fara wrth y til. A fonta'n byw dros y ffordd, dyma cael panad yno am rhyw awran tra'n gwrando arno'n son am ei swydd fel rheolwr safle dympio defaid marw i destio am rhyw haint o'r enw 'scrapies'. Tydi'r teulu wedi mynd yn bell dudwch? Ciw mam a fi yn gneud ein esgusodion a cerdded oddi yno yn gwenu a codi llaw tra'n ymbalfalu yn ein bagiau am 'wet-wipes' i sgwrio dwylo!

Am manceinion esi dydd Gwener efo criw o hogia Pen Llyn i weld yr athrylith BB King. Medda hi mewn ffordd laid-back ysgafn. NESI WELD BB KING!!! Wiiiiiii!!! Odd o'n wych! Gary Moore yn one trick pony braidd, predictable a tedious, ond waw - BB King! Wedyn clwb jazz yng nghanol y ddinas. G&T's, a grwp jazz hollol cwl mewn lle bach coch, tywyll, a dwi o'r farn bendant mai llefydd coch, tywyll di'r llefydd gora i wrando ar jazz! N'ol i'r hotel dim ond i wrando ar rhochian Math am weddill y noson wedyn... Erbyn cyrraedd adra, oni'n barod am joch o chwisgi, ac felly y bu yn y Ty Newydd tra fod Pala yn chwara yn y cefndir, Iwan yn gwasgu fy nghanol bob pum munud a Dafydd yn stymblo ogwmpas y pyb yn gwenu'n braf! Ohoho, hwyl mawr!

Adra ers hynny. Cysgu, chwara oria o biano (sy'n braf wedi tair mis o beidio medru chwara heb gal galwadau ffon dirifedi yn deuthai am gau fy mhen) a cosi bol y gath (ac Aled hehe!). Y plan ydi mynd i weld Aled fory yn Erw a mynd i weld Wil pnawn dydd Iau yn Ysgol Dyffryn Nantlle i ddeud helo. Fydd parti 50ed dad nos Sadwrn, ac felly gai weld pawb o'r teulu, a hen ffrindia dad, bob un wan jack yn hollol boncyrs! Entertainment provided by the Cowbois a dau o hen fandiau dad hehe! Fydd Quinn, Juice ac Aaron yno (a falla Cai) yn ogystal - mai'n gaddo bod yn noson i'w gofio!

Dwi di bod yn ddiwyd yn postio llunia'r flwyddyn ar flickr o'r diwedd- http://www.flickr.com/photos/sili - joiwch!

Gwbei!

Cnau Mwnci

'Mai.

Gesi'r profiad hynnod rhyfedd ddoe o weithio yn yr uned Neonatal yn hospitol Llantrisant. Ma'n agoriad llygad mawr gweld bywyd dynol mewn ffigyrau pinc bychain wedi'u rhwymo mewn tiwbs a gauze, yn y ffaith fod o'n gneud i rhywun feddwl ar un law pa mor angheuol ydachi mewn gwirionedd, ac ar y llaw arall gymaint y gellith y corff dynol ei ddioddef. Pedair ar hugain wythnos oed oedd y babi lleiaf yno, a'i thraed bach yr un maint a blaen fy mawd, heb y gallu i agor ei llygaid na chrio, dim ond strancio yn erbyn y peipiau a ddoi o'i cheg, ei thrwyn, ei breichiau a'i choesau. Gesi weld tiwb 15cm o hyd yn cael ei weithio i fyny drwy gwythien yn ei choes drwy ddefnyddio nodwydd a par o forceps, heb anasthetig a llaw y nyrs yn ei dal rhag symud. Odd o'n amhosib dychmygu fod y fath greadur yn gallu teimlo poen nes iddi hi gychwyn strancio a chicio wedi i'r nodwydd weithio'i hun mewn i'w choes a hwnnw'n gwaedu 'tha mochyn wedyn. Druan bach. A dim ond rhyw 50-65% o siawns sgen hon i fyw wedi iddi gyrraedd rhyw oed penodol.

Gesi afael yn un o'r babis yma, a hwnnw prin angen dwy law i'w ddal. Odd o'n edrych fel rhyw fath o ffilm prob, oni'n gallu dychmygu gneud rhywbeth tebyg allan o latex a phaent adra. Oni bai fod o'n gneud stumia ac yn syllu arnai allwni ddim ei ddychmygu fel plentyn i neb. Peth uffernol i ddeud ond odd o'n brofiad rhyfedd iawn. Un o'r placements sydd di gneud i fi feddwl fwya dwi'n credu.

Ac felly yn sgil yr agoriad llygaid hyn, esi i ty Cai am banad i wylio'r Cowbois ar Bandit a'i wylio fo'n mygu.

Beryg y gnai ffec-ol eto. Gwrando ar 'Songs Of Love and Hate' gan Cohen a trio gneud chydig o waith sdydio wrth gladdu bag arall o gnau mwnci o Tescos. Ffonio Aled ac ymddiheuro am be bynnag ddudis i neithiwr a'r wythnos ddwytha 'ma a deud yr un peth eto fory. Ista yn gegin fflat tri, ty-Pi ar y gadair chwd yn gwylio sothach ar y teledu fel esgus i beidio gneud dim arall cyn mynd i gwely am hanner nos a methu deffro'n iawn y dwrnod wedyn tan mai'n amser mynd i gwely eto. Rol on.

Kronenburg Blanc

Peth cas ydi'r teimlad annifyr hwnnw dachi'n gael pan dachi'n gwbod fod chi am ddod lawr efo rhyw afadwch yn hwyr neu'n hwyrach. Rhyw deimlad di-fynadd, cysglyd a blin efo bob dim yn sgwilgli o'ch cwmpas. Sy'n ffein, dwi'n haeddu hyn ar ol giamocs wicend dwytha.

Esi i Aber dydd Iau, yr un hen drefn o droi fyny yn y steshwn dri chwarter awr yn fuan gan mod i'n annobeithiol efo amser ac yn casau bod yn hwyr i unrhyw beth. Sydd wastad yn golygu mod i'n gwario 99% o'm hamser yn aros i bobl a phethau erill ddal i fyny efo mi. Ond dyna ni. Oni'n reit bles unwaith y cyrrhaeddodd y bws gan fod na hen ddyn du 'portly' yn mynnu fy serinedio efo 'My Dingaling' gan thrystio'i grotch yn fy nghyfeiriad cyffredinnol am rhyw ugain munud cyn laru a cherdded i ffwrdd dan ganu'n groch. A wedyn dynes yn trio cynnal sgwrs am sut yr oedd hi di troi yn "more of a sandwich girl in the past week". Dydd Gwener, gesi fynd i'r Llew am beint ne ddau efo Tegs a Dafydd a'r lleill tra fod Al mewn seminar cyn cael lifft adra i Bwllheli gan Marsli-pan.

Ma bod adra yn braf ar ol wythnosa o weithio a diota yn y brifysgol. Oni wedi bwriadu wicend o ymlacio a gweld y teulu, cyn picio i Ty Newydd nos Sadwrn. Ac felly y bu tan peint yn ormod o Kronenburg Blanc, lle nad ydwi'n cofio be ddigwyddodd wedi hynny, mond mod i wedi cael KO ar lawr top y dafarn mewn pwll o chwd. A chwara piano gan ganu'n uchel. Ac anghofio fy mag. A deffro Sian unwaith oni'n ol yn Erw. Lyfli. A gyda'r hangover mwyaf yn hanes y byd erioed dydd Sul, gesi orffen fy ngwaith cwrs Alimentary. Bellach dwi'n ol yn Gaerdydd (Ar ol rhanu tren efo'r cwpwl o enethod mwyaf swnllyd erioed) ac yn barod i fynd n'ol i Ben Llyn am y Pasg. Sgenai mo'r amser i fynd allan lawer ar y funud, ac felly mae apel aros yn Nhalybronx yn dirywio'n araf bach bach. Bygyr.

Llodrau Gwlyb

Mai'n bwrw yng Nghaerdydd heddiw. Bellach ma nhraed yn socian a'n llodrau'n dripian. A minnau wedi dewis galifantio o gwmpas y ddinas yn fy nghonfyrsus pinc. Wel, duon erbyn hyn mae'n rhaid cyfaddef. Sdim syndod wedi tair mlynedd solat o'u gwisgo mae'n siwr.

Ma'n llgada i wedi bod yn hynnod temprimental yn ddiweddar hefyd, a dwnim os mai oherwydd y tywydd tamp ydi hynny'n bennaf. Er dwi di diodda efo'n llgada erioed, a wastad yn cario twbyn bychan o ddrops arbennig efo mi i bob man, ma nhw di bod yn cosi llawer iawn mwy ers rhyw dridia bellach. Trip i weld r'hen Gi-Pi ben bora fory dwi'n meddwl.

Ma'r wythnos dwytha di bod yn braf. Esi Aber dydd Iau i weld yr yddyr haff, a'r bobl neis Arriva wedi penderfynnu amnewid y bws fawr gyfforddus arferol am fws-cyffredin-seti-caled. Felly gan fod dydd Iau dwytha y diwrnod oeraf o bosib yn hanes y byd erioed, a minnau, y jeniws yr ydwyf, wedi dewis eistedd yn y set flaen, oni wedi rhynnu'n llwyr erbyn cyrraedd Abertawe. A gan mai bws-seti-caled oedd o, nath y glorified horse tranquilizers o Bwts (tabledi sal car) ddim cael yr effiath arferfol o wneud i mi rochian cysgu yr holl ffordd i Aber. Delyth blin a gafwyd y noson honno.

Ond na fe, roedd gweddil y penwythnos yn wych. Lot o gysgu, ymborthi a diota. A ma'r wythnos yma wedi bod yn ddigon tawel hyd yn hyn. Dim ond cwpwl o ddarlithoedd y diwrnod, sy'n gadael jest iawn digon o amser i mi drio gorffen gwaith cwrs Alimentary fi cyn dydd Iau (trip arall i Aber ac adra wedyn erbyn dydd Sadwrn). Siawns i fyned i weld Hefin Trouble yn y Ty Newydd a gweddill rabscaliwns erill Pen Llyn yno debyg.

Oh well, ma gennai waith dysgu histology Alimentary fi rwan, felly peryg fydd raid i mi ymadael a chwi oll. Nefyr maind.

Petrol, Caws a Nionod

Ma gennai waith Homeostasis i gyflawni erbyn diwedd heddiw cyn gadael am Aberystwyth nos fory. Gorfod ysgrifennu am effeithiau Statin tra'n gweithio fel "HMG-CoA reductase inhibitor" a'i effeithiau ar lefelau cholesterol yn y corff wrth ddilyn data yn unig. Mochyndra llwyr. Rhois i gynnig arna fo neithiwr cyn mynd i'r sinema, ond heb fawr o lwyddiant gan mod i'n gallu ffeindio nifer o bethau llawer iawn gwell i neud ar y we. Dwi'n siwr fod Mathew wedi neud o'n barod, geith o neud o i fi.

Esi weld Syriana neithiwr efo criw ty-Pi. Ffilm gwd, chydig yn conffiwsing ond diddorol iawn. Yr unig beth lwyddodd i dynnu sylw Delyth drwy gydol y blydi ffilm oedd yr oglau oedd yn codi o'r dyn o mlaen i, a hwnnw'n gymysgfa o ddrewdod petrol a creision caws a nionod. Ychapych. A Lucy deintydd yn rhochian cysgu wrth fy ochr th'gwrs.

Rhyngol wedi mynd a dod a hwnnw'n wicend wych! Fe fyddwn i'n lawrlwytho'r llunie yma, ond dwi di anghofio'r camera. Gyda gobaith, fyddai wedi llwytho bob dim ar Flickr unwaith dwi'n mynd adra pen pythefnos. Beryg fod gennai dros 500 o lunie i fynd ar y wefan erbyn hyn. Nai ychwanegu linc i'r blog unwaith fyddai wedi gorffen. Beth bynnag, Callaghans nos Wener a'r undeb gachu-rwtsh nos Sadnwrn. Y swn yn rybish ar y llwyfan ond y bandia i gyd wedi chwarae'n dda amwni a minnau wedi cael hwyl fawr yn gwylio Tegid annwyl ar yr harmonium fel rhan o set Pwsi Meri Mew hehe! Esi weld Artes Mundi pnawn dydd Sadwrn yn yr amgueddfa. Gyda gobaith, gai wario fwy o amser yno wythnos nesaf i mi gal gweld bob dim yn iawn heb i'r bobl dwi efo ddiflasu'n llwyr...

Gwaith heno. A parti Kay. Ffansi dres. Morladron. Ychafi.

Bols i'r gwisgo fyny. Dos na'm byd gwaeth na grwp o stiwdants/pobl ifanc/pobl cannol oed/hen bobl yn disgyn mewn drwy ddrws y pyb yn gweiddi'n groch mewn wigs enfawr a par o fronnau/mwstash plastic efo pawb arall yn trio cael drinc tawel. Felly mi wisgai fy nillad arferol, ac mi gerddai rhyw ddeg troedfedd tu ol i bawb arall yn y gobaith na neith neb fy adnabod. Oni wedi bwriadu mynd i'r Goat i'r cwis efo Cai, ond nath Kay wylltio pan glywodd hi, felly beryg fod hynny allan drwy'r ffenast. Bols.

N'ol adra rwan, falle fydd fy ngwely dal yn gynnas ers bora ma.

Tixylix

Dwi wedi canfod ffaith holl-bwysig. Mae Ribena Blackurrant & Cranberry yn blasu union r'un fath a'r diod tagu, Tixylix. A gan mod i wedi bod yn ffan reit fowr o'r cyffur hynnod flasus yma yn fy nydd, dwi rwan yn addicted i Ribena. Sydd yn ddrwg i'r dannedd, ond yn gneud Lucy ty-Pi yn ddeintydd hynnod, hynnod hapus.

Dwi hefyd wedi dod i'r canlyniad mod i'n casau eira ac fod hyn wedi fy nhroi yn unigolyn reit sur. Bah! Dim ond gobeithio fod bysus Rhyngol yn saff a fod Aled ar un ohonyn nhw. A mai'n rhy oer, a dwi angen cerdded i'r sinema i weld Capote heno efo Cai a Criddle. Falla gneith am beint i gynesu fi ar y ffordd adra. Gan obeithio fod Dempseys yn gwerthu Ribena, hynny yw.

Ymddiheuriadau

Mae Delyth wedi bod yn meddwl. Beryg fod y blog yma'n hollol ddiflas i'r rhai sydd ddim yn adnabod y bobl na'r llefydd dwi'n son am. Ymddiheuriadau mawr am hyn. Ond dwi'm yn darllen y Western Mail a sgenai ddim barn cryf ar ddim y bysa gennai fynnadd son am yn fama heb i'r holl flog droi'n un rant mawr hir (a dwi di gneud yr anti-stiwdant rant beth bynnag). A dwi'n cael digon ar neud gwaith meddygol drwy'r dydd heb son am sgwennu amdana fo yn fama fyd.

Beryg fod chi braidd yn dwp i gario mlaen i ddarllen yma a chithau'n cael eich diflasu'n llwyr wrth wneud. Mai conshyns is cliyr.